Mae Dug Sussex wedi dweud ei fod e a’i wraig yn camu o’r neilltu fel aelodau blaenllaw o’r teulu brenhinol gyda “thristwch mawr” ond nad oedd “dim dewis arall”.

Dywedodd Harry ei fod e a Meghan wedi gobeithio parhau i wasanaethu’r Frenhines a’r Gymanwlad heb nawdd cyhoeddus ond nad oedd hynny’n bosib.

Yn ei araith gyntaf ers i’r cwpl benderfynu camu nôl dywedodd Harry ei fod eisiau i’w deulu cael bywyd “mwy heddychlon”.

Ychwanegodd nad oedd y penderfyniad yn un hawdd ond eu bod nhw wedi gwneud hynny “ar ôl misoedd o drafod a blynyddoedd o heriau.”

Roedd y Dug yn Llundain i annerch cefnogwyr ei elusen Sentebale yn Affrica sy’n helpu pobl ifanc gyda HIV. Yn ystod ei araith roedd wedi diolch i gyn-gapten tîm rygbi Cymru a’i “ffrind annwyl” Gareth Thomas am newid y ffordd mae pobl yn ystyried y firws.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r trafodaethau gyda’r teulu brenhinol gael eu cwblhau gyda Dug a Duges Sussex yn cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’w dyletswyddau brenhinol yn y gwanwyn ac na fyddan nhw’n defnyddio eu teitlau brenhinol. Fe fyddan nhw hefyd yn ad-dalu arian y trethdalwyr a gafodd ei ddefnyddio i adfer eu cartref yn Berkshire.

Mae disgwyl i’r cwpl a’u mab, Archie, rannu eu hamser rhwng Canada a’r Deyrnas Gyfunol.