Mae ymchwil diweddar gan yr elusen YMCA yn dangos fod cyllid gwasanaethau ieuenctid wedi gostwng 69% ers 2010.

Yn ôl ffigyrau a gasglwyd gan YMCA gan 84 o awdurdodau lleol, y gwariant cyfartalog ar gyfer 2019/20 oedd £2.45m o’i gymharu â £ 7.79m yn 2010/11.

Yn 2010/11 gwariwyd cyfanswm o £1.18bn, o’i gymharu â £385m yn 2018/2019.

Dywedodd Denise Hatton, prif weithredwr YMCA Cymru a Lloegr: “Mae gwasanaethau ieuenctid yn darparu cefnogaeth, cyngor a rhywle i bobl ifanc fynd pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.”

Yn ôl y prif weithredwr mae gwasanaethau ieuenctid yn chwarae “rôl sylweddol” wrth atal pobl ifanc rhag cario arfau a chymryd rhan mewn troseddau treisgar.

“Nid yw’r toriadau o flwyddyn i flwyddyn i wasanaethau ieuenctid heb ganlyniadau ac rydym eisoes yn gweld effaith y toriadau hyn mewn cymunedau ledled y wlad.”

Mae’r YMCA wedi lansio deiseb yn galw ar y Llywodraeth i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau ieuenctid gan hefyd annog pobl i gysylltu â’u Aelod Seneddol lleol gyda’u pryderon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Cynghorau, nid y llywodraeth sydd yn y sefyllfa orau i wybod beth sydd angen ar eu cymunedau, a nhw sy’n gwneud y penderfyniadau ynghylch faint maen nhw’n ei wario ar wasanaethau ieuenctid.”