Byddai’r Ceidwadwyr yn fodlon symud Tŷ’r Arglwyddi allan o Lundain mewn ymgais i “ail-gysylltu” â’r bobol, yn ôl y cadeirydd James Cleverly.

Mae’n dweud bod gweinidogion yn ystyried yr opsiwn, a’r gred yw fod Caerefrog ymhlith y llefydd dan ystyriaeth.

Ond mae’n pwysleisio bod “ystod eang o opsiynau” yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau bod “pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn teimlo’r cyswllt â gwleidyddiaeth”.

Mae’n dweud bod y blaid yn barod i “wneud pethau ychydig yn wahanol”.