Mae protestwyr amgylcheddol yn ceisio rhwystro coed rhag cael eu torri i lawr fel rhan o brosiect rheilffordd gyflym HS2.

Dywed y mudiad Extinction Rebellion eu bod yn disgwyl cannoedd o amddiffynwyr coed i bicedu yn ardal Colne Valley yng ngorllewin Llundain y penwythnos yma. Yn ôl y mudiad, mae’r safle’n gartref i filoedd o rywogaethau o blanhigion a bywyd gwyllt.

Er eu bod nhw’n hawlio buddugoliaeth fawr nad oes unrhyw arwyddion o dorri coed hyd yma, dywed y cwmni sy’n gyfrifol am HS2 nad oedd bwriad i dorri coed y penwythnos yma prun bynnag.

Dywed Extinction Rebellion fod eu haelodau’n benderfynol o rwystro pob ymgais gan HS2 i dorri coed lle bynnag mae hyn yn digwydd.

Mae’r protestiadau’n dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ymddiriedolaethau Natur yn gynharach yr wythnos yma sy’n dweud y bydd HS2 yn dinistrio llu o gynefinoedd naturiol na fydd modd eu hadfer, gan gynnwys 108 o goetiroedd hynafol.

Roedd yr adroddiad yn pwyso ar y Llywodraeth i aros ac ailfeddwl am y prosiect, yr amcangyfrifir y bydd yn costio £88 biliwn.