Mae’r llywodraeth yn bwriadu dathlu eu llwyddiant i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd trwy daflunio cloc ar Downing Street i gyfrif y munudau nos Wener 31 Ionawr.

Fe fydd goleuadau o gwmpas Whitehall yn cael eu goleuo a baneri Jac yr Undeb yn hedfan ar Parliament Square.

Fe fydd y Prif Weinidog Boris Johnson hefyd yn gwneud anerchiad arbennig ar y teledu’r noson honno.

Daw’r cyhoeddiadau am y cynlluniau dathlu wrth i’r llywodraeth ddod o dan bwysau i drefnu bod Big Ben yn seinio am 11 y nos i nodi’r achlysur.

Mae hyn yn ymddangos yn annhebygol – er bod Boris Johnson wedi awgrymu y gallai’r cyhoedd godi’r £500,000 angenrheidiol, mae awdurdodau’r senedd wedi gwrthod trefniant o’r fath.