Mae’r corff sy’n ymdrin â chwynion yn erbyn yr heddlu wedi dyfarnu na wnaeth Heddlu De Swydd Efrog ddigon i amddiffyn geneth ifanc rhag cael ei chamdrin gan gangiau o ddynion Asiaidd.

Dywedodd Swyddfa Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IOPC), eu bod nhw’n cadarnhau dilysrwydd chwech o gwynion gan y ddynes a oedd wedi dioddef y gamdriniaeth rhywiol pan oedd yn blentyn. Roedd hyn wedi digwydd am gyfnod o sawl blwyddyn o tua 2003.

Mae eu hadroddiad yn dweud hefyd fod prif arolygydd, nad yw’n cael ei enwi, wedi dweud fod yr heddlu’n gwybod bod y camdriniaeth rhywiol wedi bod yn digwydd am 30 mlynedd, ond iddo ychwanegu: “Gan mai Asiaid yw’r rhain, allwn ni ddim fforddio i hyn ddod allan.”

Meddai Steve Noonan ar ran IOPC:

“Rydym yn parhau i wneud cynnydd sylweddol gydag Operation Linden, ac rydym wedi cwblhau mwy na 90% o’n hymchwiliadau hyd yma.

“Ein blaenoriaeth drwy gydol ein holl ymchwiliad yw lles y rheini sydd wedi goroesi camdriniaeth rhywiol fel plant.

“Ar ddiwedd ein holl ymchwiliadau bwriadwn gyhoeddi adroddiad cynhwysfawr.”

Mae Operation Linden yn ymchwilio i adroddiadau am fethiannau’r heddlu yn cyfrannu at gamdriniaeth 1,400 o blant yn Ne Swydd Efrog.