Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau prifysgolion i lawr 9% ar gyfer 2012, o’u cymharu â’r ceisiadau ar gyfer eleni, meddai Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a Cholegau UCAS heddiw.
Mae nifer yr ymgeiswyr wedi disgyn o 76,612 o geisiadau gan fyfyrwyr yn y cyfnod yma yn 2011, i 69,724 yn 2012.
Daw’r ffigyrau hyn gan UCAS wythnos wedi’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i wneud meddygaeth, deintyddiaeth, a chyrsiau ar gyfer Rhydychen a Chaergrawnt, ond mae hefyd yn cynnwys nifer o fyfyrwyr sydd wedi gwneud gwneud eu ceisiadau i brifysgolion eraill yn gynnar. Y dyddiad cau cyffredinol ar gyfer ceisiadau yw 15 Ionawr.
Mae cynrychiolwyr undebau’r myfyrwyr a’r darlithwyr wedi cyhuddo polisiau addysg uwch y Llywodraeth o wneud i ymgeiswyr ddal yn ôl rhag gwneud ceisiadau eleni.
Mis Tachwedd diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan gynllun ariannu a fyddai’n caniatau prifysgolion i godi ffioedd o hyd at £9,000 y flwyddyn ar bob myfyriwr.
Dim ond mis yng nghynt fe gyhoeddodd y Trysorlys fod y gyllideb ar gyfer addysg uwch, gan gynnwys ariannu ymchwil, yn mynd i gael ei dorri o £2.9 biliwn, neu 40%, dros y pedair blynedd nesaf.
Yn ôl is-lywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Toni Pearce, mae’r “dryswch sydd wedi ei greu gan newidiadau helbulus y Llywodraeth wedi gwneud i bobol ifanc oedi, ar y lleia’, cyn gwneud cais i fynd i brifysgol.
“Mae’n rhaid i weinidogion drawsnewid eu papur gwyn cyn bod yr anrhefn dros dro yn troi’n niwed parhaol i’n system addysg,” meddai.
Yn ôl Sally Hunt, ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Prifysgolion a’r Colegau, sy’n cynrychioli dros 120,000 o staff academaidd mewn addysg ôl-ysgol, “Mae polisi ffioedd y Llywodraeth wedi bod yn llanast ers y dechrau.
“Yn gyntaf fe addawodd y Llywodraeth y byddai ffioedd dros £6,000 y flwyddyn yn eithriadau yn hytrach nag yn arferol… Ond fel y gwnaeth bob un ddarogan, mae’r ffi gyffredin wedi codi’n uwch na hynny, a beth sy’n hyd yn oed mwy amlwg yw bod nifer y myfyrwyr sy’n gwneud cais i’r brifysgol wedi disgyn yn ei sgil.”
Er bod myfyrwyr yng Nghymru hefyd yn wynebu ffioedd o hyd at £9,000 y flwyddyn, bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i dalu £3,375 y flwyddyn, a Llywodraeth Cymru yn talu’r £5,625 ychwanegol – tra bod myfyrwyr o ar draws y ffin yn talu’r ffi llawn er mwyn astudio yng Nghymru.