Mae pobol sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn cael eu hannog i rannu eu profiadau fel rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i ddiogelu gweithwyr.

Mae arolwg yn cael ei gynnal i geisio darganfod faint o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y broblem, yn y gwaith ac mewn sefyllfaoedd eraill.

Yn ôl Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth fe fydd hyn yn rhoi’r cyfle i ddioddefwyr gael dweud eu dweud ar ddeddfwriaeth i geisio eu diogelu.

Mae’r Gweinidog dros Fenywod, Victoria Atkins, yn dweud ei fod “yn hanfodol bod pobol sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol yn cael rhannu eu profiadau”.

“Fe fydd yr arolwg yma yn ein helpu i gael darlun llawn o bwy sy’n cael eu heffeithio ac yn lle. Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn ni fynd i’r afael a’r broblem.”

Mae tua 12,200 o bobol yn cymryd rhan yn yr arolwg ac er nad yw’n glir faint yn union sydd wedi cael eu haflonyddu’n rhywiol, mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd yr arolwg yn eu helpu i ddarganfod pa mor gyffredin mae’r broblem.

Yr wythnos hon, roedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi fersiwn drafft o’r Cod Ymarfer sy’n cynghori cyflogwyr sut i wneud y gweithle yn fwy diogel rhag aflonyddu rhywiol.