Mae Boris Johnson wedi gwrthod cais ffurfiol gan yr Alban i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Mae prif weinidog Prydain yn dweud y byddai cynnal refferendwm arall yn golygu “marweidd-dra gwleidyddol” i’r Alban, gan ddweud bod rhaid i wledydd Prydain “gydweithio i ddatgloi potensial y wlad wych hon”.

Pleidleisiodd 55% o Albanwyr o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig yn 2014.

Mewn llythyr, dywedodd Boris Johnson wrth Nicola Sturgeon ei fod e wedi “ystyried yn ofalus” y dadleuon o blaid refferendwm o’r newydd, ond mae’n pwysleisio addewid Alex Salmond  a Nicola Sturgeon mai refferendwm “unwaith mewn cenhedlaeth” oedd yr un gwreiddiol.

Mae’n dweud y bydd Llywodraeth Prydain yn “cadw at yr addewid” a gafodd ei wneud bryd hynny ac am y rheswm hwnnw, na fyddai’n fodlon rhoi pwerau i’r Alban a allai arwain at refferendwm arall.

Mae’n dweud bod ysgolion, ysbytai a swyddi’r Alban “ar ei hôl hi” o ganlyniad i “ymyrch i hollti’r Deyrnas Unedig”.

Ymateb yr Alban

Wrth ymateb, mae Nicola Sturgeon yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn “ofni” rhoi pwerau i’r Alban rhag ofn iddyn nhw ddewis annibyniaeth.

“Does gan y Torïaid ddim achos positif o blaid yr undeb – felly y cyfan maen nhw’n gallu ei wneud yw ceisio gwrthod democratiaeth. Fydd hynny ddim yn dal dŵr,” meddai.

Mae’n ategu ei sylwadau nad yw’r undeb yn un “gydradd”, ac y bydd hynny’n “tanio” y ddadl dros annibyniaeth.

Mae disgwyl i Lywodraeth yr Alban ymateb yn ffurfiol a phenderfynu ar y cam nesaf erbyn diwedd y mis.

Y disgwyl yw y bydd hi’n gofyn i aelodau seneddol yr Alban yn Holyrood gefnogi’r “hawl i ddewis”.