Fe fydd pum ymgeisydd yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ôl i Emily Thornberry sicrhau digon o enwebiadau ar y funud olaf o drwch blewyn.

Fe lwyddodd ysgrifennydd tramor yr wrthblaid i sicrhau 23 o enwebiadau cyn yr amser terfyn o 2.30pm ddydd Llun (Ionawr 13). Roedd angen i’r ymgeiswyr gael 22 o enwebiadau cyn mynd drwodd at yr ail rownd.

Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid Syr Keir Starmer yw’r ceffyl blaen gydag 89 o enwebiadau, tra bod gan Rebecca Long-Bailey 33, Lisa Nandy 31 a Jess Phillips 23.

Roedd Clive Lewis wedi rhoi’r gorau i’w ymgais ef i olynu Jeremy Corbyn ar ôl cyfaddef na fyddai’n cael digon o gefnogaeth i fynd drwodd at yr ail rownd.

Fe fydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn nifer o hystingau a fydd yn dechrau ar Ionawr 18 – ond mae’r blaid wedi cael ei beirniadu gan rai o’r ymgeiswyr am anwybyddu rhannau o’r wlad lle’r oedd cefnogaeth Llafur wedi dirywio’n sylweddol yn yr etholiad cyffredinol.

Mae disgwyl i’r hystingau ddechrau yn Lerpwl cyn symud i Gaerdydd, Bryste, Durham, Nottingham, Glasgow, Llundain yn ogystal â chanolbarth Lloegr a Bedford.

Yn y ras i benodi dirprwy arweinydd mae Angela Rayner, Ian Murray, Rosena Allin-Khan, Richard Burgon a Dawn Butler.