Mae Dug Caergrawnt a Dug Sussex wedi rhyddhau datganiad ar y cyd, yn beirniadu erthygl “ymfflamychol a niweidiol” mewn papur newydd am berthynas y ddau frawd.

Daeth sylwadau’r Tywysogion William a Harry wedi i’r Frenhines alw am gyfarfod brys yn Sandringham i drafod dyfodol Harry a’i wraig Meghan Markle, wedi iddyn nhw gyhoeddi wythnos ddiwethaf eu bod eisiau camu nôl o’u dyletswyddau brenhinol.

Doedd y datganiad ddim yn enwi’r papur newydd ond mae gan y Times erthygl dudalen flaen am yr argyfwng, sy’n honni bod Harry a Meghan Markle “yn teimlo eu bod wedi cael eu gwthio i’r neilltu gan beth oedden nhw’n ei weld fel bwlio gan Ddug Caergrawnt.”

Dywedodd datganiad ar y cyd ar ran y tywysogion bod y brodyr, “sy’n ymwneud cymaint â materion iechyd meddwl, yn credu bod y defnydd o’r iaith yn yr erthygl yn ymfflamychol, sarhaus ac y gallai fod yn niweidiol.”