Mae arweinydd y DUP, Arlene Foster, wedi cael ei hail-ethol yn brif weinidog Gogledd Iwerddon dair blynedd ar ôl i’r llywodraeth ddiwethaf yn Stormont ddod i ben yn sgil anghydfod.

Wrth i gynulliad Gogledd Iwerddon gyfarfod am y tro cyntaf ers 2017 heddiw, cafodd arweinydd Sinn Fein yn Stormont, Michelle O’Neill, hefyd ei hethol yn ddirprwy brif weinidog.

Er y teitlau, mae statws cyfartal i’r ddwy swydd yn llywodraeth y dalaith.

Wrth bwysleisio’r angen i edrych i’r dyfodol, fe wnaeth Arlene Foster gyfeiriad annisgwyl ac arwyddocaol at ymadrodd Gwyddeleg.

“Mae llun a ges i’n anrheg gan ddisgyblion ysgol yn Newry yn dweud ‘Gyda’n gilydd, rydym yn gryf’,” meddai.

“Mae gennym lawer o wahaniaethau, ond allwn ni ddim caniatáu i gymdeithas lithro’n ôl a gadael rhaniadau i dyfu.

“Mae Gogledd Iwerddon yn llwyddo mewn llawer o ffyrdd. Mae’n bryd i Stormont symud ymlaen a dangos ‘gyda’n gilydd rydym yn gryfach’ er budd pawb.”

Dywedodd Michelle O’Neill ei bod yn adeg dyngedfennol i Ogledd Iwerddon.

“Mae’n anrhydedd gen i ddilyn yn ôl troed Martin McGuinness fel dirprwy brif weinidog, ac fel cyd-bennaeth y llywodraeth dw innau hefyd yn addo dilyn esiampl Martin trwy hyrwyddo cymodi, ac adeiladu pontydd y gall pawb ohonom eu croesi i roi terfyn ar sectyddiaeth a rhagfarn.”

Cafodd Alex Maskey o Sinn Fein ei ethol yn llywydd y cynulliad, ac fe fydd pob un o’r pum prif blaid yn chwarae rhan yn y llywodraeth ddatganoledig.

Cafodd yr anghydfod cyfansoddiadol ei ddatrys ar ôl i’r ddwy blaid fwyaf, Sinn Fein a’r DUP, arwyddo cytundeb a gafodd ei baratoi gan lywodraethau Prydain ac Iwerddon.