Mae dyfais newydd yn cynnig cyfle i deithwyr deithio’n rhatach ar drenau trwy ‘hollti’ eu tocynnau.

Mae’r wefan a’r ap, Trainline, wedi lansio SplitSave, a fydd yn cynnig arbedion ar filoedd o deithiau rheilffordd.

Mae’r ddyfais yn chwilio am gyfuniadau o docynnau i arbed arian i deithwyr ar bron i ddau draean o deithiau rheilffyrdd Prydain, trwy dorri teithiau hir yn gyfres o deithiau byrrach. Yn ôl Trainline, mae modd gwneud hynny heb orfod newid trenau’n ddiangen ar deithiau.

“Rydym yn cydweithio’n agos â’n partneriaid yn y diwydiant ar y datblygiad cyffrous yma,” meddai Clare Gilmartin, prif weithredwr Trainline. “Mae’n gam mawr tuag at y nod o gael pobl i ddewis teithio ar drên yn lle yn eu ceir neu mewn awyrennau.”

Er bod y corff sy’n cynrychioli cwmniau trenau, y Rail Delivery Group, yn croesawu’r datblygiad, maen nhw’n dweud bod angen mwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth er mwyn gallu cynnig mwy o ddewis o docynnau trên i deithwyr.