Mae disgwyl y bydd miloedd o gefnogwyr annibyniaeth yn gorymdeithio ar strydoedd Glasgow heddiw, yn y gyntaf o wyth digwyddiad o’r fath sydd wedi eu trefnu ar gyfer 2020.

Yn ôl y trefnwyr, y mudiad All Under One Banner (AUOB), mae eleni’n debygol o fod yn flwyddyn dyngedfennol i’r Alban. Yn ddiweddarach eleni, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn Peebles, Elgin, Kirkaldy, Stirling, Caeredin ac unwaith eto yn Glasgow, gyda’r orymdaith nesaf yn Arbroath ym mis Ebrill i nodi 700 mlwyddiant arwyddo datganiad annibyniaeth i’r Alban.

Dywedodd Gary Kelly ar ran AUOB fod y gyfres o orymdeithiau yn adlewyrchu momentwm cynyddol am ail refferendwm annibyniaeth.

“Dw i’n obeithiol am refferendwm annibyniaeth eleni, ond mae gen i deimlad y bydd yn cael ei lusgo i 2021 oherwydd etholiad Holyrood,” meddai.