Mae’r Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab wedi galw am ymchwiliad “annibynnol, llawn a thryloyw” i ddamwain awyren Tehran.

Daeth ei sylwadau ar ôl i Boris Johnson ddweud bod gwybodaeth wedi dod i law oedd yn awgrymu bod yr awyren o’r Wcráin wedi plymio i’r ddaear ar ôl cael ei tharo gan daflegryn o Iran.

Fe wnaeth y Prif Weinidog ei gyhoeddiad ar ôl i swyddogion yr Unol Daleithiau ac Arlywydd Canada ddweud bod tebygolrwydd bod Iran wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad.

Cafodd 176 o bobl eu lladd pan blymiodd yr awyren i’r ddaear funudau’n unig ar ôl gadael maes awyr rhyngwladol Imam Khomeini yn Tehran ddydd Mercher (Ionawr 8) ar ei ffordd i Kyiv, prifddinas yr Wcráin.

“Mynediad at safle’r ddamwain”

Wrth siarad yng Nghanada, dywedodd Dominic Raab eu bod yn cytuno gydag asesiad Canada oedd yn awgrymu bod awyren Ukrainian International Airlines wedi cael ei tharo gan daflegryn o Iran ond bod posibilrwydd nad oedd yn fwriadol.

Ychwanegodd bod angen i Iran ganiatáu i’r gymuned ryngwladol gael mynediad at safle’r ddamwain “er mwyn cael mynd at y gwir mor fuan â phosib er mwyn caniatáu i deuluoedd y dioddefwyr gael deall beth ddigwyddodd i’w hanwyliaid.”

Mae’r Swyddfa Dramor wedi cynghori pobl o wledydd Prydain rhag teithio mewn awyrennau i, o ac o fewn Iran.

Daeth cadarnhad bod pedwar o ddinasyddion o wledydd Prydain wedi marw yn y ddamwain awyren. Roedd o leiaf traean o’r rhai gafodd eu lladd yn dod o Ganada.

Ymchwiliad troseddol

Mae lluoedd Iran wedi gwadu’r awgrymiadau bod taflegryn yn gyfrifol am y ddamwain ac mae swyddogion y wlad wedi rhoi’r bai ar dan yn injan yr awyren.

Mae Arlywydd yr Wcrain Volodymyr Zelenskyy wedi galw am ymchwiliad troseddol i’r digwyddiad ac wedi gwahodd arbenigwyr o’r Deyrnas Unedig i ymuno yn yr ymchwiliad.

Daw’r datblygiadau diweddaraf wrth i densiynau yn y Dwyrain Canol gynyddu ar ôl i’r Cadfridog Qassem Soleimani o Iran gael ei ladd gan yr Unol Daleithiau.