Mae Dug a Duges Sussex wedi cael eu beirniadu’n hallt gan sawl papur Llundeinig yn sgil eu penderfyniad i gefnu ar eu swyddogaethau brenhinol.

Mewn datganiad a gafodd ei gyhoeddi ar dydd Mercher cyhoeddodd y cwpwl y byddan nhw’n rhoi’r gorau i fod yn “uwch aelodau” o’r teulu brenhinol, a’u bod am fod yn annibynnol yn ariannol.

Yn ôl adroddiadau mae newyddion y Tywysog Harry, a’i wraig Meghan Markle, yn sioc i’r teulu brenhinol eu hunain, a bellach mae’r penderfyniad wedi esgor ar feirniadaeth chwyrn.

Mae’r colofnydd Daily Mirror, Rachael Bletchly, wedi galw penderfyniad y tywysog yn “hunanol”, ac mae’n dweud ei bod wedi “cael llond bol [o’i] ragrith eco-warrior”.

Mae 17 tudalen cyntaf y Daily Mail yn rhoi sylw i’r mater, ac mae colofn olygyddol y papur yn cyhuddo Harry o wasgu’r “botwm niwclear” gan ddryllio’i yrfa frenhinol.