Fe fydd arweinydd newydd Llafur yn cael ei gyhoeddi mewn cynhadledd arbennig ar Ebrill 4, meddai’r blaid.
Cafodd yr amserlen ar gyfer y ras i benodi olynydd i Jeremy Corbyn ei gytuno mewn cyfarfod o Bwyllgor Cenedlaethol y blaid (NEC) ddydd Llun (Ionawr 6).
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid y byddai’r bleidlais bost o aelodau yn cael ei chynnal rhwng Chwefror 21 ac Ebrill 2.
Ychwanegodd eu bod yn awyddus i gymaint a phosib o’u haelodau a chefnogwyr gymryd rhan ac y bydd y bleidlais yn “un agored, teg a democrataidd.”
Fe fydd yn rhaid i’r ymgeiswyr sicrhau enwebiadau gan o leiaf 10% (22) o Aelodau Seneddol ac Aelodau Seneddol Ewropeaidd y blaid cyn mynd ymlaen i ail ran y gystadleuaeth.
Fe fydd yr un rheolau ac amserlen yn cael eu defnyddio yn y gystadleuaeth i ddewis olynydd i Tom Watson, y dirprwy arweinydd.
Mae pum ymgeisydd wedi ymuno yn y ras am arweinyddiaeth Llafur hyd yn hyn – Syr Keir Starmer, Emily Thornberry, Clive Lewis, Jess Phillips a Lisa Nandy.
Mae disgwyl hefyd i ysgrifennydd busnes yr wrthblaid Rebecca Long-Bailey ymuno yn y ras.