David Cameron
Mae disgwyl i David Cameron wynebu her i’w awdurdod heddiw wrth i Aelodau Seneddol Ceidwadol alw am refferendwm ar ddyfodol gwledydd Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi cyfarwyddyd i Aelodau Seneddol Ceidwadol i wrthwynebu’r cynnig am refferendwm ond mae’n debyg bod hyd at 100 o ASau ei blaid yn barod i’w herio.

Mae’r Blaid Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar  Aelodau Seneddol i bleidleisio yn erbyn y cynnig ac mae disgwyl i’r Llywodraeth ennill mwyafrif yn y bleidlais.

Ond mae’r bleidlais yn bygwth agor hen greithiau o fewn y Blaid Geidwadol ynglŷn â dyfodol gwledydd Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd – dadl a oedd wedi creu rhwyg o fewn y blaid yn y 1990au.

Hyd yn hyn mae 60 o ASau Ceidwadol wedi arwyddo cynnig yn galw am refferendwm ynglŷn â ddylai gwledydd Prydain aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod 33 o ASau eraill wedi arwyddo gwelliannau sydd hefyd yn mynd yn groes i bolisiau’r Llywodraeth.