Mae Keir Starmer wedi cyflwyno’i enw i arwain y Blaid Lafur.Fe fydd yn lansio’i ymgyrch yn Stevenage, lle bydd yn galw ar y blaid i wrando er mwyn adennill cefnogaeth pleidleiswyr.

Pleidleisiodd 59% o boblogaeth y dref dros Brexit yn y refferendwm Ewropeaidd yn 2016.

Ef yw’r pumed ymgeisydd i gymryd rhan yn y ras, wrth i Lafur geisio symud ymlaen ar ôl eu canlyniad etholiadol gwaethaf ers 1935.

Mae Jess Phillips, Lisa Nandy, Emily Thornberry a Clive Lewis hefyd yn y ras.

Mae Keir Starmer yn galw am adennill hygrededd fel plaid ac am beidio â chilio oddi wrth werthoedd traddodiadol Llafur na radicaliaeth y blynyddoedd diwethaf.

Mewn erthygl yn The Sunday Mirror, does dim sôn ganddo am Brexit, ac yntau wedi’i feirniadu am gefnogi ail refferendwm.

Cefndir

Ac yntau’n gyfreithiwr hawliau dynol, fe fu’n allweddol mewn sawl achos cyfiawnder, gan gynnwys Stephen Lawrence.

Bu’n bennaeth ar Wasanaeth Erlyn y Goron yn y gorffennol, ac fe gafodd ei urddo’n farchog yn 2014 ac o ganlyniad, mae rhai yn amau ei werthoedd sosialaidd.

Ond mae’n fab i rieni dosbarth gweithiol o Southwark yn Llundain, ac mae rhai hefyd yn ei ystyried yn ormod o Lundeiniwr.

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Holborn a St Pancras yn 2015.