Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pum cerbyd ar draffordd M32 ger Bryste.

Bu’r ffordd ynghau am rai oriau yn dilyn y digwyddiad i gyfeiriad y gogledd am oddeutu 10 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 4).

Fe ddigwyddodd gydag un gwrthdrawiad pan gafodd dyn ei daro ar ôl gadael ei gerbyd.

Cafodd person arall anafiadau i’r cefn, a chafodd dau berson arall eu hanafu.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.