Mae’r heddlu yn Glasgow yn cynnal ymchwiliad ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol ar stryd yn y ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 7.10 fore heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 4).
Roedd y dyn yn gorwedd ar lawr ger arhosfan bws yn ardal Cowcaddens.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle mae e bellach mewn cyflwr difrifol.
Mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan ddynes a gafodd ei gweld yn yr ardal rhwng 5.30 a 5.45 fore heddiw, ac mae’r heddlu’n ceisio gwybodaeth gan nifer o gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus.