Mae siop gerddoriaeth HMV yn rhybuddio y gallai swyddi gael eu colli mewn deg siop oni bai bod modd dod i gytundeb â landlordiaid.

Daw’r cyhoeddiad wrth i un arall o siopau’r stryd fawr, Debenhams, baratoi i gau 19 o siopau yn Lloegr, ac mae disgwyl i 28 yn rhagor gau yn 2021.

Bydd tair o siopau HMV yn cau ddiwedd y mis, gyda thenantiaid newydd yn barod i symud i mewn i’r safleoedd.

Mae’r cwmni’n dweud mai cyfraddau busnesau uchel sy’n gyfrifol, a bod rhaid iddyn nhw symud i leoliadau newydd mewn rhai trefi a dinasoedd.

Cafodd HMV ei brynu gan Doug Putman ym mis Chwefror ar ôl mynd i ddwylo’r gweinyddwyr am yr ail waith mewn pum mlynedd, ac fe fu’n rhaid iddo gau 15 o siopau ar ôl hynny.

Aeth Debenhams i ddwylo’r gweinyddwyr fis Ebrill eleni er mwyn lleihau dyledion.