Mae Derek Acorah, cyflwynydd rhaglenni teledu am y byd goruwchnaturiol, wedi marw’n 69 oed yn dilyn salwch byr.

Mae’n cael ei gofio’n bennaf am y rhaglenni Most Haunted a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf yn 2001, ynghyd â Predictions with Derek Acorah, lle byddai’n darogan digwyddiadau ym mywydau aelodau’r gynulleidfa.

Ond mae ei yrfa’n ymestyn dros ddegawdau, ac fe wnaeth e ymddangos yn The Psychic Zone yn 1966 cyn cyfrannu at y gyfres Psychic Livetime.

Fe wnaeth e ymddangos yn y gyfres Celebrity Big Brother yn 2017, gan orffen yn bedwerydd.

Mewn rhaglen arall, Michael Jackson: The Live Seance, fe geisiodd e gysylltu ag ysbryd y canwr.

Cymeriad dadleuol

Er bod ei gyfresi a’i raglenni’n boblogaidd, fe gafodd ei feirniadu sawl gwaith yn ystod ei yrfa.

Daeth Most Haunted i ben yn 2005 yn dilyn honiadau ei fod e’n ffugio rhai o’r digwyddiadau yn y gyfres, ar ôl i paraseicolegydd ddweud iddo gael cais ganddo i roi gwybodaeth ffug iddo am ysbrydion mewn gwahanol leoliadau.

Fel rhan o’r twyll honedig, cafodd y cymeriad Kreed Kafer ei greu, sy’n sillafu Derek Faker o ad-drefnu’r llythrennau.

Ac fe fu’n rhaid iddo ymddiheuro wrth rieni Madeleine McCann ar ôl dweud bod y ferch fach wedi marw a’i bod hi “wedi ymuno â byd yr ysbrydion”.

Ond fe honnodd iddo gael ei gam-ddyfynnu gan bapur newydd.

Cafodd ei wahardd rhag gyrru yn 2014 am achosi damwain a methu â rhoi sampl o’i anadl yn dilyn y digwyddiad.