Fe fydd pob gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn dechrau funud yn hwyrach na’r arfer heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 4) er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd meddwl.

Fe fydd ffilm yn cael ei dangos cyn pob gêm – yn y caeau ac ar y teledu – a honno wedi’i lleisio gan Ddug Caergrawnt.

Bydd y ffilm yn annog pobol i roi sylw i’w hiechyd meddwl, ac mae’n serennu nifer o bêl-droedwyr Lloegr gan gynnwys Jesse Lingard, Harry Maguire a Jordan Pickford.

Cafodd y ffilm ei chreu ar y cyd gan ymgyrch Every Mind Matters Iechyd Cyhoeddus Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ac ymgyrch Heads Up Heads Together.