Mae Lidl wedi cyhoeddi na fydd cartŵns ar eu bocsys creision ŷd wedi’r gwanwyn.

Nod yr archfarchnad yw annog cwsmeriaid i fwyta’n iachach, ac i leihau’r “cwympo mas” rhwng rhieni a’u plant ar ystlysau bwyd.

Mae arolwg gan Opinium yn dangos bod tri chwarter o rieni yn teimlo pwysau gan eu plant i brynu bwydydd nad ydyn nhw’n yn iach.

Ac o’r 1,000 o rieni plant ysgol gynradd a gafodd eu holi, dywedodd hanner eu bod yn teimlo mai cymeriadau ar becynnau sy’n achosi hyn.

“Lleddfu’r pwysau”

“Rydym eisiau helpu rhieni ledled Prydain i wneud penderfyniadau iachus a chall am y bwyd maen nhw’n prynu i’w plant,” meddai Georgina Hall, Pennaeth Cyfrifoldeb Cymdeithasol Lidl.

“Rydym yn gwybod bod dewis bwyd yn medru achosi cwympo mas rhwng rhieni a’u plant, ac rydym yn gobeithio y bydd cael gwared ar gymeriadau cartŵn yn lleddfu’r pwysau sydd ar rai rhieni.

“Mae’r cam diweddaraf yma yn amlygu’n ymrwymiad i sicrhau bod bwyd da ar gael i bawb, ac i helpu cwsmeriaid i fyw bywydau iachach.”