Mae cwmni Next wedi cyhoeddi bod eu gwerthiant wedi bod yn well na’r disgwyl yn ystod dau fis ola’ 2019.

Fe gyhoeddodd y cwmni dillad gynnydd o 5.2% mewn gwerthiant yn y cyfnod hyd at Ragfyr 28, gan ddweud bod hynny 1.1% yn uwch na’r hyn roedd y cwmni wedi ei ddarogan.

Dywed Next eu bod yn credu bod gwerthiant yn uwch yn ystod cyfnod y Nadolig oherwydd tywydd oerach ym mis Tachwedd o’i gymharu â llynedd a gwella’r stoc oedd ar gael mewn siopau ac ar-lein.

Er bod gwerthiant mewn siopau wedi gostwng mae eu busnes ar-lein yn parhau i dyfu.

Mae’r cwmni’n dweud eu bod yn disgwyl i werthiant barhau 3.9% yn uwch erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Bellach mae’r cwmni’n disgwyl i’w elw am y flwyddyn fod tua £727m, cynnydd o £2m o’r hyn roedd wedi ei ddarogan.