Mae’r cyn ymgeisydd arlywyddol Hillary Clinton wedi cael ei hapwyntio yn ganghellor Queen’s University Belffast.

Hi fydd canghellor benywaidd cyntaf y coleg.

Bydd Hillary Clinton yn y swydd am bum mlynedd a disgrifiodd yr apwyntiad fel “braint fawr”.

Dywed Uwch-ganghellor y Brifysgol Stephen Prenter ei fod wrth ei fodd gyda’r apwyntiad.

“Mae Hillary Clinton wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Ogledd Iwerddon ac fel arweinydd rhyngwladol bydd hi’n hyrwyddwr gwych i’r Brifysgol ac yn ysbrydoliaeth i’r gymuned.”