Mae dyn 50 oed o Swydd Northampton wedi marw yn dilyn ffrwydrad tân gwyllt yng Ngwlad Thai.

Mae lle i gredu bod Gary McLaren wedi marw ar ôl i’r tân gwyllt ffrwydro yn ei wyneb yn nhref Pattaya.

Bu farw yn y fan a’r lle, yn ôl adroddiadau lleol.

Mae’r Swyddfa Dramor yn cefnogi ei deulu.

Bu’n gweithio ers blynyddoedd fel peiriannydd ym maes rasio ceir a beics ac mae nifer o dimau wedi talu teyrnged iddo.