Mae dyn 59 oed wedi marw ac mae pump o bobol wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ger Manceinion fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 1).

Fe ddigwyddodd yn Fallowfields am oddeutu 3.30yb pan darodd Skoda Octavia a Mercedes yn erbyn ei gilydd.

Bu farw gyrrwr y Skoda yn yr ysbyty, ac mae bywyd un person arall mewn perygl, a phedwar arall wedi cael anafiadau difrifol.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.