Fe wnaeth gwasanaeth ambiwlans yr Alban ymateb i fwy na 2,500 o alwadau ar noson Hogmanay neithiwr (Rhagfyr 31),

Fe fu’n rhaid cyflogi staff ychwanegol er mwyn ymateb i’r galw uwch nag arfer.

Derbyniodd canolfan alwadau 2,547 o alwadau mewn pum awr rhwng 7 o’r gloch a chanol nos, sy’n gynnydd o 2.7% o’i chymharu â’r un noson y llynedd.

Mae staff y gwasanaethau brys wedi cael eu canmol.