Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio ym Manceinion, Peterborough a gogledd Llundain ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan eu bod nhw wedi’u harestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi ac annog gweithred frawychol.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio ym Manceinion, dyn 19 oed ei arestio yn Peterborough a dau ddyn 22 a 23 oed eu harestio yng ngogledd Llundain.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod yr arestiadau wedi cael eu cynllunio ac nad ydyn nhw’n “credu bod bygythiad i’r cyhoedd.”