Mae dynes o wledydd Prydain wedi’i chael yn euog o ddweud celwydd am gael ei threisio gan griw o ddynion yng Nghyprus.

Cafwyd y ddynes 19 oed yn euog o un cyhuddiad o gamymddwyn cyhoeddus yn Llys Famagusta yn Paralimni heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 30).

Roedd y ddynes wedi honni iddi gael ei threisio gan hyd at 12 o ddynion o Israel mewn gwesty yn Ayia Napa ar Orffennaf 17 cyn gwneud datganiad 10 diwrnod yn ddiweddarach i dynnu’r cyhuddiad yn ôl.

Roedd y ddynes wedi mynnu yn y llys ei bod wedi cael ei threisio ond ei bod wedi bod dan bwysau gan yr heddlu yng Nghyprus i newid ei datganiad o’r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd y barnwr Michalis Papathanasiou nad oedd y ddynes wedi dweud y gwir a’i bod wedi ceisio twyllo’r llys. Ychwanegodd ei bod wedi dweud wrth swyddogion oedd yn ymchwilio i’r achos ei bod wedi gwneud yr honiadau am ei bod yn teimlo “cywilydd” ar ôl darganfod bod rhai o’r dynion o Israel wedi ei ffilmio yn cael rhyw ar eu ffonau symudol.

Roedd y 12 dyn gafodd eu harestio yn dilyn yr ymosodiad honedig wedi cael dychwelyd i Israel ar ôl cael eu rhyddhau. Roedd y ddynes wedi treulio mwy na mis yn y carchar cyn iddi gael ei rhyddhau ar fechnïaeth ar ddiwedd mis Awst ond nid yw hi wedi cael gadael yr ynys.

Fe fydd hi’n cael ei dedfrydu ar Ionawr 7. Fe allai wynebu blwyddyn yn y carchar a dirwy o 1,700 ewro (£1,500).

Apelio

Wrth adael y llys dywedodd Nicoletta Charalambidou, cyfreithwraig y ddynes,  eu bod nhw’n bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad yn y Goruchaf Lys.

Roedd protestwyr ar ran y grŵp Network Against Violence Against Women yn y llys heddiw ac maen nhw’n mynnu nad yw’r ddynes wedi cael gwrandawiad teg.