Mae’r teulu brenhinol wedi cael “blwyddyn drychinebus” yn ôl yr awdur Penny Junor.

Er i’r teulu groesawu Archie, babi Harry a Meghan, Dug a Duges Sussex, fe fu nifer o straeon negyddol amdanyn nhw yn ystod y flwyddyn hefyd – o wrthdrawiad Dug Caeredin i’r honiadau am berthynas Tywysog Andrew â’r pedoffil Jeffrey Epstein.

Cafodd ei feirniadu ymhellach yn dilyn cyfweliad ar raglen Newsnight, lle wnaeth e ddim ymddiheuro am ei ymddygiad, gan gynnwys honiadau iddo gael rhyw â merch 17 oed.

Ac yn dilyn ffrae rhwng Meghan a’i thad, cafodd hi a Harry eu beirniadu am ddefnyddio gwerth £2.4m o arian trethdalwyr i adnewyddu eu cartref newydd ac am ddefnyddio awyrennau preifat er gwaetha’r holl drafod ar olion carbon.

Fe fu sawl ffrae hefyd rhwng Harry a’i frawd William, a’u gwragedd Meghan a Kate, wrth i Ddug a Duges Sussex adael Palas Kensington a’r Sefydliad Brenhinol o ganlyniad i’r anghydweld.

Yn ystod taith i Dde Affrica, fe wnaeth Harry a Meghan feirniadu’r wasg a dwyn achos yn eu herbyn am eu triniaeth o Meghan, ac fe wnaeth Harry ddatgelu “perthynas anodd” a’i frawd.

‘Cysgod dros waith da aelodau eraill’

Yn ôl Penny Junor, mae’r sylw negyddol i rai o aelodau’r teulu brenhinol yn gysgod tros waith da aelodau eraill.

“Dw i’n credu bod y frenhiniaeth yn mynd trwy gyfnod anodd iawn… dw i’n credu ei bod hi wedi bod yn flwyddyn drychinebus,” meddai.

“Mae aelodau’r teulu sy’n gweithio’n galed – Tywysog Charles, Camilla, William a Kate a’r Frenhines – i gyd wedi gwneud gwaith rhagorol ond dw i’n credu y bu cysgod dros hynny i gyd yn sgil pethau eraill.”

Wrth drafod ymadawiad Tywysog Andrew o fywyd cyhoeddus, mae’n dweud bod hynny’n “ddi-gynsail”.

1992 – ‘annus horribilis’

Mae Penny Junor yn cymharu 2019 â 1992, “annus horribilis” y teulu brenhinol yn dilyn ysgariad y Dywysoges Frenhinol Anne, a Dug a Duges Caerefrog Andrew a Sarah yn gwahanu ynghyd â Charles a Diana, Tywysog a Thywysoges Cymru.

Roedd tân mawr yng nghastell Windsor y flwyddyn honno hefyd, a phryderon y byddai’n rhaid i drethdalwyr dalu’r gost o adnewyddu’r adeilad.