Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged i ‘wir gyfaill i’r SNP’ a fu farw ddoe.

Roedd Colin Weir, a enillodd jacpot o £161 miliwn yn y loteri EuroMillions yn 2011, wedi cyfrannu £1 miliwn at ymgyrch annibyniaeth yr Alban cyn y refferendwm yn 2014.

Cyn hynny, roedd wedi sefyll fel ymgeisydd i’r SNP yn etholiad cyffredinol 1987 ac wedi parhau i gyfrannu i’r blaid ar ôl y refferendwm.

“Ni ellir gorbwysleisio penderfyniad a haelioni Colin dros achos annibyniaeth i’r Alban, ac roedd yn cael ei werthfawrogi’n fawr,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’r SNP a’r mudiad annibyniaeth wedi colli gwir gyfaill heddiw, a byddwn yn ei golli’n fawr.”

Roedd Colin Weir, o Largs yng Ngogledd Swydd Air, hefyd yn gefnogwr gydol oes i’w glwb pêl-droed Partick Thistle, a bu’r chwaraewyr yn gwisgo bandiau du yn ystod y gêm yn erbyn Greenock Morton y pnawn yma.

Ef a’i wraig a oedd yn dal y record fel enillwyr y jacpot mwyaf erioed ym Mhrydain tan fis Hydref eleni.

Roedd y cyn ddyn camera teledu yn 71 oed.