Dywed cyn-ddirprwy arweinydd Llafur, Tom Watson, iddo benderfynu rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol yn rhannol oherwydd yr ‘atgasedd’ o fewn ei blaid.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Guardian, dywed fod yr amodau o fewn Llafur wedi cyfrannu at wneud ei yrfa wleidyddol yn amhosibl.

“Y pwynt yw bod yr atgasedd yn wirioneddol, a hynny ddydd ar ôl dydd,” meddai.

“Felly fe wnes i feddwl mai nawr yw’r amser i gymryd naid, i wneud rhywbeth gwahanol.”

Dywedodd hefyd iddo gefnogi cyn-AS Pontypridd, Owen Smith, pan heriodd hwnnw Jeremy Corbyn am arweinyddiaeth Llafur yn 2016.

“Fe wnes i bleidleisio dros Owen, ond dw i erioed wedi dweud hynny’n gyhoeddus o’r blaen,” meddai. “Fy marn i oedd, cyn gynted ag mae arweinydd yn colli hyder y blaid seneddol, mae bron yn amhosibl gweld sut y gallwch ffurfio llywodraeth. Ro’n i’n meddwl y dylai Jeremy fod wedi ymddiswyddo, ac fe fu bron iawn iddo wneud hynny.”

Cafodd hen etholaeth Tom Watson, Dwyrain West Bromwich, ei hennill gan y Torïaid yn yr etholiad cyffredinol.