Mae Llywydd Comisiwn Ewrop yn rhybuddio y dylid ystyried gohirio Brexit tan ar ôl 2020.

Daw sylwadau Ursula von der Leyen wrth iddi rybuddio na fydd hi’n hawdd trafod masnach ac agweddau eraill ar y berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ar Ionawr 31.

Dim ond ar ôl hynny y gall trafodaethau ynghylch masnach, pysgodfeydd, addysg a thrafnidiaeth ddechrau, a rhaid iddyn nhw ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Ond mae Ursula von der Leyen yn dweud ei bod hi’n gofidio am brinder amser.

“Mae’n ymddangos i fi, o’r ddwy ochr, y dylen ni ystyried yn ofalus a yw’r trafodaethau’n bosib o fewn y fath gyfnod byr,” meddai wrth bapur newydd Les Echos yn Ffrainc.

“Dw i’n credu y byddai’n rhesymol i ystyried yn ofalus ganol y flwyddyn ac os oes angen, i gytuno ar ymestyn y cyfnod trosglwyddo.”

‘Dim rhagor o oedi’

Mae pryderon bellach y gallai Prydain adael heb gytundeb ar ddechrau 2021 os na fydd cytundeb yn ei le erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, eisoes yn dweud nad yw’n fodlon ystyried ymestyn y broses ac mae mwyafrif y Ceidwadwyr yn San Steffan yn golygu ei fod e’n debygol o gael cryn gefnogaeth.

Mae Mesur Brexit hefyd yn cynnwys gwelliannau sy’n atal Llywodraeth Prydain rhag ymestyn y cyfnod trosglwyddo y tu hwnt i 2020.

Yn ôl Cytundeb Lisbon, sy’n rhoi sylw i ymadawiad gwledydd o’r Undeb Ewropeaidd, rhaid i unrhyw estyniad pellach gael ei gytuno erbyn Mehefin 30, 2020.