Mae Dug Caeredin wedi gadael yr ysbyty yn Llundain, ar ol treulio pedair noson yno.

Fe adawodd Ysbyty’r Brenin Edward VII toc wedi 8.30yb ar Noswyl Nadolig (heddiw, Rhagfyr 24), mewn car. Fe gerddodd i’r cerbyd ar ei fenter ei hun, ac eistedd yn sedd y teithiwr blaen.

Ni chymerodd sylw o ffotograffwyr a oedd wedi crynhoio o flaen yr adeilad, wrth iddo adael.

Y gred ydi ei fod bellach yn teithio yn ol i Sandringham, i dreulio’r Nadolig gyda’i wraig, y Frenhines.