Mae dau berson wedi cael eu darganfod yn farw mewn fflat yn Belfast.

Mae’n debyg bod corff dyn a dynes wedi cael eu darganfod yn y fflat yn ardal Kinnaird Close prynhawn dydd Llun (Rhagfyr 23).

Mae’r trigolion mewn nifer o gartrefi gerllaw wedi cael eu symud o’r safle wrth i’r heddlu ddelio gyda “digwyddiad difrifol”.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon eu bod nhw wedi derbyn galwad 999 toc wedi 1pm.

Mae lle i gredu bod y dyn a’r ddynes wedi cael eu trywanu. Dywed yr heddlu y bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal yn fuan.