Mae dyn o wledydd Prydain wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau ei fod yn rhan o grwp oedd yn cynllwynio i hacio gwybodaeth gan gwmniau yn yr Unol Daleithiau.

Mae Nathan Francis Wyatt, 38, wedi ymddangos gerbron llys ffederal St Louis, wedi iddo golli brwydr gyfreithiol hir yn erbyn ei estraddodi i America.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd pa gwmniau oedd am gael eu targedu.

Mae cofnodion y llys yn dangos ei fod yn wynebu dau gyhuddiad o ‘ddwyn’ identiti ac o fygwth gwneud difrod i gyfrifiadur.