Mae aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur yn yr Alban yn cwestiynu doethineb gwrthwynebiad y blaid i ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

Collodd y blaid nifer o seddi i’r SNP yn yr etholiad cyffredinol, ac mae un o’r aelodau seneddol, Monica Lennon yn dweud bod “rhaid i ddyfodol yr Alban gael ei ddewis gan bobol yr Alban”.

Er ei bod hi’n gwrthwynebu annibyniaeth, mae hi’n cydnabod fod nifer sylweddol o bobol wedi cefnogi’r SNP a’u galwad am refferendwm arall.

“Mae cynllun yr SNP ar gyfer annibyniaeth yn wan ac fe fydd yn siomi nifer o Albanwyr adeiladol sydd wedi diflasu â llymder,” meddai.

“Fodd bynnag, rhaid i ddyfodol yr Alban gael ei ddewis gan bobol yr Alban.”

Cytuno

Un sy’n cytuno â barn Monica Lennon yw Ged Killen, oedd wedi colli ei sedd i’r SNP.

“Fe wnes i ymgyrchu ar addewid i bleidleisio yn erbyn indyref2 ond fe wnes i golli,” meddai.

“Mae’r SNP wedi gwneud enillion mawr ar sail addewid i gynnal refferendwm arall ac, fel democratiaid, rhaid i ni dderbyn hynny hyd yn oed os nad ydyn ni’n ei hoffi.”

Mae Alison Evison, cynghorydd Llafur, hefyd yn dweud bod rhaid “dilyn prosesau” er mwyn rhoi llais i bobol yr Alban.

‘Gwastaffu amser’

Ond nid pawb sy’n cytuno.

“Rydych chi’n gwastraffu eich amser gwerthfawr yn dadlau am fandadau,” meddai Kezia Dugdale, cyn-arweinydd Llafur yr Alban yn gynharach eleni.

“Mae angen dadl newydd arnoch chi dros yr Undeb nad yw wedi’i gwreiddio yn y Frenhines ac unoliaeth gwlad.

“Mae angen hyn arnoch, pa un a yw’r refferendwm ymhen blwyddyn neu genhedlaeth.”