Mae Michael Gove wedi ategu sylwadau Boris Johnson, prif weinidog Prydain, na fydd y Ceidwadwyr yn rhoi caniatâd i’r Alban gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Daw’r sylw ar ôl i Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, rybuddio na all Llywodraeth Prydain “garcharu’r Alban mewn Undeb yn erbyn ei hewyllys”.

Yn ôl Michael Gove, refferendwm “unwaith mewn cenhedlaeth” oedd y refferendwm yn 2014 ac nad yw safbwynt y Ceidwadwyr yn mynd i newid.

Ac mae’n dweud na fydd canlyniadau etholiad Holyrood yn 2021 yn cael unrhyw ddylanwad ar hynny.

Wrth ymateb, mae Nicola Sturgeon yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o “wylltio yn erbyn realiti”, gan fynnu bod gan yr SNP fandad i gynnal refferendwm arall ar ôl codi nifer eu haelodau seneddol i 47.

“Dywedwyd wrthym yn 2014 mai dewis am genhedlaeth fyddai hwn, a dydyn ni ddim am gael refferendwm annibyniaeth i’r Alban,” meddai Michael Gove wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

‘Pwynt democrataidd cwbl sylfaenol’

Mae Nicola Sturgeon yn dweud nad dyma fydd diwedd y mater, wrth gyfeirio at sgwrs gafodd hi â Boris Johnson ar ôl i’r Ceidwadwyr ennill yr etholiad cyffredinol.

“Os yw e’n credu – ac fe ddywedais i hyn wrtho fe ar y ffôn nos Wener – mai dweud na yw diwedd y mater, yna fe fydd e’n darganfod ei fod e’n gwbl anghywir,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Mae’n bwynt democrataidd cwbl sylfaenol.

“Allwch chi ddim dal yr Alban yn yr Undeb yn erbyn ei hewyllys.

“Allwch chi ddim jyst ein cloi ni mewn cwpwrdd a throi’r allwedd, a gobeithio bod popeth yn mynd i ffwrdd.”