Mae Boris Johnson yn ystyried datgriminaleiddio peidio â thalu ffi’r drwydded deledu, yn ôl y Sunday Telegraph.

Yn hytrach na dwyn achos yn eu herbyn am fethu â thalu’r ffi o £154.50, fe allai Llywodraeth Prydain benderfynu eu dirwyo.

Mae Downing Street yn gwrthod ymddangos ar raglen Today BBC Radio 4 yn sgil yr hyn maen nhw’n ei alw’n duedd o blaid y rhai oedd eisiau aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Y llynedd, roedd gan 25.8m o gartrefi drwydded deledu, sy’n creu gwerth £3.6bn o incwm i’r BBC.

Yn ystod yr ymgyrch cyn yr etholiad cyffredinol, dywedodd prif weinidog Prydain ei fod e’n ystyried diddymu’r drwydded yn gyfangwbl.

Mae’r Siarter bresennol sy’n rheoleiddio’r BBC yn dod i ben yn 2027.

Y BBC yn anghytuno

Yn ôl y BBC, does dim diben dod â ffi’r drwydded i ben.

Dywed llefarydd fod ymchwiliad blaenorol gan farnwr ar gais y BBC wedi dod i’r casgliad y “dylid cadw’r drefn bresennol” sy’n “deg i bobol sy’n talu ffi’r drwydded”.

Ymhellach, mae’n dweud mai rhan fach iawn o waith y llysoedd (0.3%) yw ymdrin ag achosion lle nad yw pobol wedi talu’r ffi.

“Gallai datgriminaleiddio hefyd olygu fod gyda ni o leiaf £200m yn llai i’w wario ar raglenni a gwasanaethau y mae ein cynulleidfaoedd wrth ein boddau â nhw,” meddai wedyn.