Mae Jeremy Corbyn wedi ymddiheuro am berfformiad siomedig y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol.

Enillodd y blaid ddim ond 203 o seddi o’i gymharu â 365 y Ceidwadwyr.

Mewn llythyr agored, mae’r arweinydd yn dweu ei fod e’n “cymryd cyfrifoldeb” am ganlyniad gwaethaf y blaid ers 1935, ond ei fod e’n “falch” fod y blaid wedi cyfleu neges o “obaith” yn ystod yr ymgyrch.

Collodd y blaid nifer o seddi yn eu cadarnleoedd, gan gynnwys Cymru, ac mae Jeremy Corbyn yn dweud y bydd e’n camu o’r neilltu’n gynnar y flwyddyn nesaf.

“Roedd y canlyniad yn ergyd drom i bawb sydd angen newid gwirioneddol ddifrifol yn ein gwlad,” meddai yn y Sunday Mirror.

“Mae’n flin gen i ein bod ni’n brin o’r nod a dw i’n cymryd cyfrifoldeb am hynny.

“Byddwn ni’n dysgu’r gwersi o’r golled hon, yn fwy na dim drwy wrando ar gefnogwyr oes Llafur wnaethon ni eu colli yn ein cymunedau dosbarth gweithiol.

“Mae’r blaid hon yn bod er mwyn eu cynrychioli nhw. Byddwn ni’n adennill eu hymddiriedaeth.”

Amddiffyn polisïau

Er gwaetha’r golled, mae Jeremy Corbyn yn amddiffyn polisïau’r blaid gan ddweud eu bod nhw’n “boblogaidd ac wedi ailosod amodau’r ddadl”.

“Dw i’n falch, o ran llymder, o ran grym corfforaethol, o ran anghydraddoldeb ac o ran argyfwng yr hinsawdd ein bod ni wedi ennill y dadleuon ac wedi ail-lunio amodau’r ddadl wleidyddol,” meddai yn yr Observer.

“Does dim amheuaeth fod ein polisïau ni’n boblogaeth, o berchnogaeth gyhoeddus o’r rheilffyrdd a’r gwasanaethau nwy a thrydan allweddol i raglen enfawr i godi tai a chodiad cyflog i filiynau o bobol.

“Y cwestiwn yw sut y gallwn ni lwyddo yn y dyfodol lle wnaethon ni ddim y tro hwn?”