Mae John McDonnell yn dweud na fydd e’n rhan o gabinet cysgodol nesaf Llafur yn dilyn perfformiad siomedig y blaid yn yr etholiad cyffredinol.
Fe fu’n ganghellor yr wrthblaid yng nghabinet diwethaf Jeremy Corbyn, sydd eisoes yn dweud na fydd e wrth y llyw ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ac mae’n awgrymu bod ad-drefnu mawr am ddigwydd yr wythnos nesaf, er ei fod yn dweud mai’r arweinydd presennol yw’r “arweinydd cywir”.
“Awn ni i gyd nawr,” meddai wrth y BBC, gan awgrymu fod Jeremy Corbyn am gamu o’r neilltu.
“Bydd yr arweinydd newydd yn dod i mewn ac yn penodi cabinet cysgodol.
“Fydda i ddim yn rhan o’r cabinet cysgodol hwnnw.
“Dw i wedi chwarae fy rhan. Mae angen i ni symud ymlaen gydag arweinydd newydd.”
Perfformiad Llafur
Yn ôl Jeremy Corbyn ar ôl yr etholiad, mae’n barod i barhau’n arweinydd tan y flwyddyn nesaf a hyd nes y bydd arweinydd newydd yn ei le.
Ond fe fu rhai eisoes yn galw ar iddo ymddiswyddo ar unwaith yn dilyn etholiad cyffredinol siomedig i’r blaid.
Cafodd Llafur eu trechu gan y Ceidwadwyr mewn nifer o gadarnleoedd, gan gynnwys gogledd Cymru, canolbarth Lloegr a gogledd-ddwyrain Lloegr.
Hwn oedd perfformiad gwaetha’r blaid ers 1935.
Ar hyn o bryd, mae nifer o enwau’n cael eu crybwyll i arwain y blaid, gan gynnwys David Lammy, Lisa Nandy, Rebecca Long-Bailey, Angela Rayner, Keir Starmer, Jess Phillips ac Emily Thornberry.
Mae John McDonnell yn credu mai Brexit a diffyg gwrando ar bobol oedd yn bennaf gyfrifol am berfformiad y blaid, a bod anegn “mynd i’r afael â’r materion hynny”.