Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ethol arweinydd newydd “yn y flwyddyn newydd”, meddai’r blaid.

Maen nhw’n chwilio am arweinydd newydd ar ôl i Jo Swinson golli ei sedd i’r SNP yn Nwyrain Sir Dunbarton nos Iau (Rhagfyr 12), a hynny er iddi honni yn ystod yr ymgyrch y gallai hi gamu i sedd y prif weinidog pe bai yna senedd grog.

Hi oedd arweinydd benywaidd cynta’r blaid, ond chwe mis yn unig barodd hi yn y swydd ar ôl olynu Vince Cable.

Ed Davey, yr ymgeisydd arall y tro diwethaf, a Sal Brinton yw’r cyd-arweinyddion dros dro a byddan nhw wrth y llyw tan bod arweinydd newydd yn cael ei ddewis.

Yn ôl cyfansoddiad y Democratiaid Rhyddfrydol, rhaid i’r arweinydd fod yn aelod seneddol presennol, ac mae angen cefnogaeth 10% o aelodau seneddol a 200 o aelodau llawr gwlad y blaid, a hynny o isafswm o 20 o ganghennau lleol.

Yr enwau posib

Mae’n ymddangos bod Ed Davey am daflu ei enw i’r cylch unwaith eto, ac mai fe fyddai’r ceffyl blaen y tro hwn.

Fe gollodd e’r etholiad arweinyddol diwethaf o 47,997 o bleidleisiau i 28,021 yn erbyn Jo Swinson.

Fe fu’n aelod seneddol Kingston a Surbiton ers 2017.

Fe fu’n aelod seneddol rhwng 1997 a 2015 ac eto ers 2017.

Mae’r posibiliadau eraill yn cynnwys Layla Moran (Gorllewin Rhydychen ac Abingdon), Wera Hobhouse (Caerfaddon) a’r newyddiadurwraig Christine Jardine (Gorllewin Caeredin).