Mae nifer o wleidyddion amlycaf San Steffan wedi colli eu seddi yn yr etholiad cyffredinol a’r mwyaf ohonyn nhw i gyd, efallai, yw Jo Swinson.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi colli ei sedd yn Nwyrain Sir Dunbarton i’r SNP – a dim ond 149 o bleidleisiau rhyngddyn nhw.

Mae’n golygu ei bod hi hefyd yn camu o’r neilltu a bod y Democratiaid Rhyddfrydol bellach yn chwilio am arweinydd newydd.

Ed Davey a’r Farwnes Sal Brinton yw’r arweinyddion dros dro.

Roedd Jo Swinson wedi bod yn crybwyll y posibilrwydd o ddod yn brif weinidog pe bai yna senedd grog.

Ar noson siomedig i Lafur, sy’n debygol o arwain at ymadawiad Jeremy Corbyn, fe gollodd Dennis Skinner ei sedd yn Bolsover.

Yn dilyn ymadawiad Ken Clarke, fe fyddai’r gwleidydd Llafur 87 oed wedi dod yn Dad y Tŷ.

Ond mae Llafur wedi colli’r sedd am y tro cyntaf ers 1950.

Rhai o’r enwau mawr eraill

Chuka Umunna –  fe wnaeth y cyn-Geidwadwr droi at y Democratiaid Rhyddfrydol ar ôl treulio cyfnod yn aelod seneddol annibynnol yn Streatham.

Zac Goldsmith – fe gollodd y cyn-ymgeisydd ar gyfer swydd Maer Llundain ei sedd ar ôl gwyriad o 6% o’r Ceidwadwyr i’r Democratiaid Rhyddfrydol i sicrhau buddugoliaeth i Sarah Olney yn Richmond Park, un o ardaloedd mwyaf llewyrchus Lloegr.

Nigel Dodds – mae plaid y DUP wedi colli eu safle fel plaid gynorthwyol y Ceidwadwyr bellach, a felly hefyd eu harweinydd yn San Steffan. Fe gollodd ei sedd yng Ngogledd Belffast i John Finucane, ymgeisydd Sinn Fein.

Sam Gyimah – ar ôl mynd at y Democratiaid Rhyddfrydol yn sgil ei safbwynt ar Brexit, fe orffennodd y cyn-Geidwadwr yn drydydd yn Kensington.

Anna Soubry – un arall oedd wedi gadael y Ceidwadwyr i fynd yn arweinydd y criw annibynnol, roedd hi’n drydydd yn Broxtowe.

Dominic Grieve – fe gollodd e’r chwip am wrthwynebu cynllun Brexit Boris Johnson ac fe aeth yn annibynnol gan orffen yn ail yn Beaconsfield.

Caroline Flint – ar ôl chwe buddugoliaeth flaenorol, collodd ei sedd yn Don Valley i’r Ceidwadwyr wrth i Lafur golli’r sedd am y tro cyntaf ers 1922.

Luciana Berger –  gadawodd hi Lafur yn sgil yr helynt gwrth-Semitiaeth, gan sefydlu’r grŵp annibynnol cyn mynd at y Democratiaid Rhyddfrydol. Cafodd ei threchu gan y Ceidwadwyr yn Finchley & Golders Green.

David Gauke – collodd y cyn-weinidog cyfiawnder chwip y Ceidwadwyr am wrthwynebu bargen Brexit Boris Johnson, ond fe gollodd ar ôl mynd yn annibynnol yn Ne Orllewin Sir Hertford.

Antoinette Sandbach – rebel Brexit arall oedd wedi colli chwip y Ceidwadwyr cyn ymuno â’r Democratiaid Rhyddfrydol. Roedd hi’n ceisio cadw ei gafael ar sedd Eddisbury ar ôl gadael y Cynulliad yn 2017 ond gorffennodd hi’n drydydd.