Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, yn cyhuddo’r prif weinidog Boris Johnson o fanteisio ar ymosodiad London Bridge ar drothwy’r etholiad cyffredinol yfory (dydd Iau, Rhagfyr 12).

“Dw i ond yn difaru nad yw’r Ceidwadwyr wedi bod yn onest â ni,” meddai.

“Dw i ond yn difaru i ni gael gwleidyddiaeth y gwter, gwefannau ffug, celwyddau a thaflu baw.

“Dw i ond yn difaru nad ydyn nhw wedi parchu rhieni Jack Merritt a gafodd ei ladd ar ein strydoedd.

“Dw i’n difaru bod Boris Johnson wedi gweld hynny, a dyfynnu tad Jack Merritt, fel ‘cyfle’.

“Dw i’n difaru na fyddai wedi dangos cydymdeimlad a pharch ac empathi.

“Dw i ond yn difaru nad oedd Boris Johnson wedi dangos empathi ynghylch plentyn yn cael ei drin, yn dioddef o niwmonia ac yn gorwedd ar lawr ysbyty.

“Dyna’r math o wleidyddiaeth sydd gan y Ceidwadwyr nawr o dan Johnson.”

 

Amddiffyn Jonathan Ashworth

 

Wrth ymosod ar Boris Johnson, mae John McDonnell hefyd wedi amddiffyn Jonathan Ashworth, llefarydd iechyd Llafur yn San Steffan.

 

Cafodd ei recordio’n ddiweddar yn codi amheuon am allu Jeremy Corbyn i fod yn brif weinidog.

 

Yn ôl John McDonnell ar raglen Today ar Radio 4, roedd ei gydweithiwr yn “cellwair” wrth wneud y sylwadau.

 

“Roedd e’n ceisio annog ei ffrind Ceidwadol bondigrybwyll i gael trafodaeth oedd yn cellwair yn fwy na dim, ac fe wnaeth hynny’n gwbl glir,” meddai.

“Roedd e mewn hwyliau cellweirus, dyna ddywedodd e a dw i’n ei gredu fe.

“Mae’n ddiddorol, mae’n dweud mwy am y ffrind Ceidwadol bondigrybwyll hwn na Jonathan Ashworth.

“Pa fath o ffrind sy’n recordi sgwrs ffôn fel y gwnaeth e ac yn ei roi i wefan sy’n lladd ar y Ceidwadwyr?

“Ond dyna natur gwleidyddiaeth y Ceidwadwyr erbyn hyn.

“Dyna mae Boris Johnson wedi llusgo’r blaid i mewn iddo.

“Mae’n ddi-urddas, ac yn wleidyddiaeth y gwter.

“Ond mae’n dweud mwy am wleidyddiaeth y Ceidwadwyr nag am Jonathan Ashworth, sydd wedi ymddwyn yn gwbl briodol.”