Mae Jeremy Corbyn wedi mynnu fod ganddo’r stamina i arwain y Deyrnas Unedig fel Prif Weinidog am bum mlynedd.

Daw hyn wrth i’r dyn 70 oed wynebu honiadau ei fod rhu fregus i arwain y wlad.

Ond dywed Jeremy Corbyn wrth y rhaglen BBC Brekfast ei fod yn iach, ffit a bywiog – gan ddweud ei fod yn bwyta uwd bob bore.

“Dw i wedi mynychu mwy o ddigwyddiadau nag arweinydd unrhyw blaid arall yn yr etholiad hwn, dw i ddim am roi’r ffidil yn y to eto,

“Mae gennym ddau ddiwrnod arall i fynd, a byddai allan yn ymgyrchu hyd at 10 o’r gloch nos Iau.”