Mae parodi Boris Johnson a’r Ceidwadwyr o ‘Love Actually’ yn hepgor cerdyn sy’n sôn am ddweud y gwir, yn ôl Hugh Grant, un o sêr y ffilm.

Mae’r hysbyseb yn dangos dynes yn ateb y drws a gweld prif weinidog Prydain yn sefyll o’i blaen.

Mae’n dweud wrth ei gŵr mai canwr carolau sydd yno, ac mae Boris Johnson yn mynd yn ei flaen i ddal cardiau i fyny sy’n cynnwys addewidion y Ceidwadwyr ar drothwy’r etholiad cyffredinol.

Yn y ffilm wreiddiol, mae un o’r cardiau’n dweud fod rhaid dweud y gwir adeg y Nadolig, wrth i’r dyn wrth y drws geisio darbwyllo’r ddynes i’w garu a’i ganlyn.

Ond does dim golwg o’r cerdyn hwnnw yn hysbyseb y Ceidwadwyr.

Ymateb Hugh Grant

“Ro’n i’n meddwl ei fod e wedi cael ei wneud yn dda iawn,” meddai Hugh Grant wrth raglen Today ar Radio 4.

“Roedd y gwerthoedd cynhyrchu’n uchel iawn ond yn amlwg, mae gan y Blaid Geidwadol lawer iawn o arian.

“Efallai mai dyna lle’r aeth y ceiniogau. 

“Ond fe wnes i sylwi mai un o’r cardiau o’r ffilm wreiddiol wnaeth e ddim ei ddal i fyny yw’r un lle daliodd Andrew Lincoln gerdyn i fyny yn dweud ‘Oherwydd adeg y Nadolig, rydych chi’n dweud y gwir’.

“A dw i’n tybio efallai nad oedd sbin-ddoctoriaid y Blaid Dorïaidd yn credu y byddai’r cerdyn hwnnw’n edrych yn dda iawn yn nwylo Boris Johnson.”