Mae Heddlu Bryste wedi arestio dyn 33 oed ar amheuaeth o droseddau brawychol yn dilyn cyrchoedd yn ardal Clifton.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu weithredu brawychiaeth, ac mae’r troseddau honedig yn ymwneud ag Islam, yn ôl yr heddlu.

Ond maen nhw’n pwysleisio nad oes perygl i’r cyhoedd ac nad yw’r troseddau honedig yn ymwneud â’r ymosodiad ar London Bridge fis diwethaf.

Mae’r dyn yn cael ei holi yn y ddalfa tra bo’r heddlu’n chwilio’i gartref.